AGOR DRYSAU - OPENING DOORS
Gŵyl Agor Drysau, a drefnir gan Gwmni Theatr Arad Goch, yw gŵyl theatr ryngwladol Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.
Nod yr ŵyl yw rhoi’r cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru weld rhai o gynyrchiadau theatr gorau’r byd yn ogystal â rhoi cyfle i raglenwyr a chynhyrchwyr rhyngwladol brofi cyfoeth celfyddydau perfformio Cymru. Cynhelir perfformiadau, gweithdai a sgyrsiau yn nhref Aberystwyth, sef cartref yr ŵyl, ac mewn theatrau ledled y wlad. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1996, ac fe gaiff ei chynnal am y 10fed tro ar 12-16 Mawrth 2024. Bydd rhaglen Gŵyl Agor Drysau 2024 yn cael ei chyhoeddi’n fuan. Yn y cyfamser cewch weld manylion yr ŵyl ddiwethaf, yn 2019, ar y wefan hon