5 wythnos i fynd!

5 wythnos i fynd!

Mae’r cwmni wedi bod yn brysur tu hwnt ac mae  amser yn hedfan. Gyda 5 wythnos i fynd mae’r cwmni wedi bod yn taflu allan cant a mil o bethau yn y post yma dwi am drafod beth yw’r pethau pwysig chi angen gwybod! Y peth mwyaf pwysig yn ddiweddar yw’r wefan a dwi am gerdded chi drwyddo nawr!

 

Os ydych chi wedi cyrraedd fan hyn, rydych wedi cael cip olwg sydyn, ond beth am y man bethau?

 

Welsoch chi y tab cynyrchiadau?

Mae gan bob cynhyrchiad ei tab ei hun; Os ewch chi ach llygoden dros y bocsys sy’n cynnwys llun, gallwch chi ddarllen mwy am y cynhyrchiad, y cwmni a gwylio fideo yn trafod y gwaith. Mae gan y sioe Tripula fideo arbennig yn dangos ychydig o’r sioe felly os ydych yn pendroni am fynd i weld un cynhyrchiad neu beidio, ewch draw i’r bocsys yn y cynyrchiadau!

Tab diddorol arall yw’r rhaglen!

Yn y tab yma gallwch gael golwg manwl ar bob un o’r sioeau a pha amser mae’r sioeau yn cael eu dangos. Gyda hyn, os nad yw’r sioe yn Aberystwyth, gallwch wasgu ar linc eith a chi draw i wefan y theatr mae’r cynhyrchiad ynddo lle gallwch archebu tocynnau!

 

Cofiwch hefyd fod yna tab i gymrud rhan. Fan hyn gallwch weld y ffordd gallwch chi helpu a bod yn rhan o’r ŵyl.

 

Mae digon i weld ar y wefan a dros y 5 wythnos nesaf byddwn ni’n rhoi mwy i fyny ar y wefan ac yn ysgrifennu mwy o nodiadau fan hyn!

 

Gadael Ymateb