Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu gyda gŵyl Agor Drysau 2019 – yn ystod y cyfnod sy’n arwain lan i’r yr ŵyl ac yn ystod yr ŵyl ei hun (Mawrth 16-23). Ydych chi’n frwdfrydig am theatr i bobl ifanc ac eisiau dysgu mwy am theatr a sut mae gŵyl o’i fath yn cael ei gwneud a’i chreu? Yna ymunwch â ni ar gyfer yr ŵyl!
Dyma restr o feysydd rydyn ni’n chwilio am bobl i’w cael fel gwirfoddolwyr. Mae nifer cyfyngedig o swyddi ym mhob un o’r categorïau isod – felly’r cyntaf i’r felin caiff falu!
Stiwardiaid ar gyfer yr ŵyl
Gweithio gyda thîm Arad Goch yn casglu tocynnau, helpu gyda chynrychiolwyr o wledydd gwahanol wrth iddynt gyrraedd, helpu gyda hwyluso trefniadau’r ŵyl. Bydd y stiwardiaid yma yn cael hyfforddiant a mentoriaeth broffesiynol gan y cwmni ar gyfer ei rôl. Yn ddelfrydol bydd y hyfforddiant yma yn ystod wythnos y 1af o Fawrth – manylion yma i’w trafod.
Cynorthwywyr ar gyfer y cynrychiolwyr o dramor ag artistiaid
Gweithio gyda thîm cynhyrchu’r ŵyl ar gyfer gwneud yn siŵr bod y cynrychiolwyr yn gyfforddus yn ein tref, mynd a nhw o sioe i sioe, i’w gwestai, i le bynnag maent angen mynd ar gyfer yr ŵyl. Mae ail iaith fel Sbaeneg neu Ffrangeg neu Iseldireg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol. Bydd gofyn i’r sawl sydd yn gwirfoddoli fod ar gael o’r 11eg o Fawrth i gael ei hyfforddi – manylion i’w trafod.
Cynorthwywyr staff yr ŵyl yn y swyddfa
Cynorthwyo gyda’r tîm cynhyrchu yn swyddfa Arad Goch gyda’r gwaith papur, helpu gyda’r ochr tocynnau, helpu gyda’r ochr gweinyddol, ysgrifennu datganiadau, ffonio ysgolion ayyb. Bydd angen i’r gwirfoddolwyr yma fod ar gael o’r 1af o fis Mawrth – manylion i’w trafod.
Cynorthwywyr i’r tîm hyrwyddo
Bydd y tîm yn helpu’r rheolwr marchnata gyda hyrwyddo’r ŵyl wrth rannu’r negeseuon ar wefannau cymdeithasol, mynd o gwmpas y dref ac i ysgolion gyda phosteri, rhoi taflennu’r
ŵyl allan ar y penwythnosau, helpu gyda’r digwyddiadau ymylol a llawer mwy. Bydd y swydd yma yn ddelfrydol ar gyfer rhywun rhadlon a hyderus. Bydd gofyn iddynt ddechrau tua chanol mis Chwefror – manylion i’w trafod.
Ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilm
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n frwdfrydig am waith ffotograffiaeth a ffilm i gadw dogfen o’r ŵyl a’r gwaith ymylol. Gyda’r holl weithgareddau rydym yn ei chynnal mae angen digon o bobl sydd yn gallu gweithio gyda’r rheolwr dogfennu i ffilmio a thynnu lluniau o’r perfformiadau a’r digwyddiadau ar gyfer cadw cofnod ac archifo’r gwaith at ddibenion marchnata.
Dylunwyr setiau
Cynorthwyo’r tîm marchnata a’r tîm hyrwyddo wrth greu gwaith celf o gwmpas y dref ac yng Nghanolfan Arad Goch. Swydd ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd yn astudio celf Lefel A neu yn y brifysgol – manylion i’w trafod.
Tywysyddion
Yn ystod yr ŵyl rydym yn defnyddio nifer o wahanol fannau felly mae angen tywysyddion ar gyfer bob lleoliad. Byddwch yn helpu gyda’r tîm cynhyrchu, a’r stiwardiaid yn y theatrau, ac yn y nosweithiau ymylol, yn casglu’r tocynnau wrth y drws, rhoi tocynnau allan ac yn cael cyfle i weld y sioeau – manylion i’w trafod.
———————————————————————————————————————————————————–
Unai llenwch y ffurflen isod a’i bostio i: Bethan Ruth, Cwmni Theatr Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth. SY23 2NN.
Neu ebostiwch bethanr@aradgoch.org gyda eich rol dewisol a’ch manylion cyn gynted â phosib.