Cynhyrchiad chwareus ac agos-atoch am ddau ffrind sy’n hoffi casglu cerrig a’u defnyddio i greu patrymau, siapau, cerfluniau a cherddoriaeth.
Mae’r ddrama hon yn ddatblygiad o'r gwaith arbenigol mae’r cwmni wedi’i greu i blant bach yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan defnyddio gwrthrychau naturiol i ddweud straeon gan annog y plant i archwilio ffyrdd o chwarae a dysgu. Mae ynddi elfen gyfranogol gref yn ogystal â stori fydd yn cynorthwyo’r plant i adnabod a thrafod eu hemosiynau eu hunain.
Blas o'r perfformiad:
Dyddiadau
22/03/2019 am 9.45yb, Arad Goch
22/03/2019 am 1.15yp, Arad Goch
Manylion
Cwmni: Cwmni Theatr Arad Goch
Gwlad: Cymru
Iaith: Perfformir yn Saesneg neu yn y Gymraeg gyda’r iaith leol
Oedran: 3+