“Pob dydd, dw i’n chwarae efo Mam. Yn sydyn, mae’r gêm yn newid…”
Un bore rhwng deffro a dechrau’r dydd mae bachgen bach yn mynd â ni ar siwrne i edrych ar fydoedd chwarae – yn ei ddychymyg, ar-lein neu yn y byd ‘go iawn’ er mwyn darganfod ffordd newydd o chwarae …
Sioe weledol llawn cerddoriaeth fyw a symudiadau syfrdanol sydd
yn dathlu pwysigrwydd chwarae ym mherthynas plant ac oedolion. Mae’r gwaith-ar-y-gwell yma yn archwilio cymhlethdodau’r sut, ble, pam, gyda phwy a’r beth yw chwarae yn ein byd hynod brysur…
Dyddiadau
18/03/2019 am 09:30, Ysgol
18/03/2019 am 14:00, Ysgol
19/03/2019 am 9.30yb, Ysgol
19/03/2019 am 13:45, Ysgol
Manylion
Cwmni: Theatr Iolo
Gwlad:
Iaith: Perfformir yn y Gymraeg
Oedran: 4+ a theuluoedd
Ysgrifennwr a Pherfformiwr: Elgan Rhys
Cyfansoddwr a chydweithredwr: Robin Edwards
Perfformiwr a chydweithredwr: Matt Gough
Y Cwmni: www.theatriolo.com @theatriolo @TrydarPontio michelle@theatriolo.com