Palmant – Pridd

Mae’r berfformiadau hyn wedi’u creu drwy gynllun ‘6x1’ Cwmni Theatr Arad Goch sydd yn galluogi artistiaid llaw-rydd i greu gwaith newydd i gynulleidfaoedd ifanc.

Perfformiad dawns un-person.

2 wlad wahanol, 2 le gwahanol, 2 iaith wahanol, 1 person - hunaniaeth person ifanc hoyw a’i berthynas gyda dau le gwahanol.

Pa mor bwysig yw lle wrth ystyried ein hunaniaeth? A oes modd bod yn gwbl fodlon mewn dau le gwahanol ar yr un pryd? Beth sy’n digwydd pan mae dau fyd yn uno? Pa effaith mae labelau a phwysau cymdeithas yn cael wrth i ni geisio darganfod harmoni rhwng dau fyd hollol wahanol?

 

Dyddiad

20/03/2019 am 2.15yp, Arad Goch

20/03/2019 am 8.30yh, Arad Goch

Manylion

Cwmni: Osian Meilir  / Cwmni Theatr Arad Goch

Gwlad: Cymru

Iaith: ychydig iawn o Gymraeg

Oedran: i bawb dros 10 oed