Mae’r berfformiadau hyn wedi’u creu drwy gynllun ‘6x1’ Cwmni Theatr Arad Goch sydd yn galluogi artistiaid llaw-rydd i greu gwaith newydd i gynulleidfaoedd ifanc.
Crëwyd y cynhyrchiad gan un o gwmnïau theatr ffoaduriaid blaenllaw'r DG. Yn y cynhyrchiad mae pedwar ffoadur ifanc a wnaeth y daith lafurus i'r DG ar eu pen eu hunain yn blant o Affganistan, Eritrea ac Albania. Maent wedi dweud wrthynt am eu 'hanes' dro ar ôl tro i'r Swyddfa Gartref fel rhan o geisio am loches a’r awydd i’w hadennill sy'n sail i waith arloesol Phosphoros Theatre. O’r siop bizza rydym yn cychwyn trwy amser a chyfandiroedd i archwilio sut wnaethon nhw gyrraedd yma, i ble maent yn mynd a beth maen nhw wedi'i ddysgu ar hyd y ffordd. Mae'n stori am hunaniaeth wrywaidd a diwylliannol, o deulu a thadolaeth. Dyma theatr sy'n rhoi ffoaduriaid fel ei chanolbwynt.
Dyddiad
21/03/2019 am 7.30yh, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Archebwch Nawr!
Manylion
Cwmni: Phosphoros Theatre
Gwlad: Cymru
Iaith:
Oedran:
Perfformwyr: Tewodros Aregawe, Goitom Fesshave, Kate Duffy, Emirjon Hoxhai, Syed Haleem Najibi
Awduron: Dawn Harrison & Pavlos Christodoulou
Cynhyrchwr & Cyfarwyddwr Technegol: Juliet Styles
Rheolwr Cyfranogiad: Kate Duffy
Arweinydd Marchnata: Charlie Ensor
Y Cwmni: https://www.phosphorostheatre.com