Qui Pousse - Pwy Sy'n Gwthio - Who's Pushing
Dyma berfformiad cyffrous a swynol, llawn dychymyg, sy’n mynd â ni i fyd newydd rhwng y ddaear a’r awyr – byd symudol o fambŵ a llinynnau cotwm.
Daw dau gymeriad, fel anifeiliaid newydd, i archwilio’u byd newydd gan hongian a symud fry uwchben dan ganu iaith ddychmygol newydd.
Ac wrth i’w byd symud, gwthio a llenwi maen nhw’n darganfod gemau newydd, arfer â’u amgylchfyd, a dysgu sut i fwynhau cwmni’i gilydd.
Blas o'r perfformiad:
Qui pousse - Teaser - Cie Lunatic from Cie Lunatic on Vimeo.
Dyddiadau
21/03/2019 am 9.30yb, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Tocynnau yn dod cyn bo hir.
21/03/2019 am 1.30yp, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Tocynnau yn dod cyn bo hir.
23/03/2019 am 2.00yp, Theatr Mwldan, Aberteifi
24/03/2019 am 11.00yb, Wyeside Arts Centre, Llanfair ym Muallt
Manylion
Cwmni: Compagnie Lunatic
Gwlad: Ffrainc
Iaith: Does dim iaith
Oedran: 3-8 oed
Awduron: Cécile Mont-Reynaud + Gilles Fer
Perfformwyr: Cécile Mont-Reynaud + Camille Voitellier
Cydweithwyr creadigol:
Cerflunydd a gweuthurydd pypedau: Chloé Cassagnes
Dratwrg a chynorthwy-ydd sgriptio: Eric Deniaud
Cyfansoddi a sain: Thomas Mirgaine et Sika Gblondoumé / groupe Mam’Sika
Gwisgoedd: Mélanie Clénet
Y Cwmni: https://www.cielunatic.com/