Remarkable Rhythm
7+ a theuluoedd
60 munud

Perfformiad dawns hyfryd i blant a theuluoedd. Pan fydd Rhythm a Glas yn cyfarfod ym mharc Belle Vue, mae ganddyn nhw bum niwrnod yr hanner tymor i weld a yw eu cyfeillgarwch yn werth ei gadw, cyn iddyn nhw fynd yn ôl i’w hysgolion gwahanol. Mae Rhythm yn ddigymell ac yn profi bywyd fel symudiad a cherddoriaeth. Mae’n well gan Glas ar y llaw arall fywyd sefydlog, gan ffafrio pethau i aros yr un fath. A fyddan nhw’n darganfod rhythm arbennig sy’n perthyn iddyn nhw yn unig? Trwy gerddoriaeth, symudiad, a hap a damwain, mae’r ddau berson ifanc hyn yn profi’r anhawster a’r llawenydd o gysylltu â’r rhai sy’n wahanol iddyn nhw eu hunain. Sioe theatr ddawns yw Remarkable Rhythm. Gyda disgrifiadau sain integredig gan y ddau berfformiwr, mae’r cynhyrchiad hwn yn hygyrch i gynulleidfaoedd sy’n ddall neu’n rhannol ddall ac mae’r stori gorfforol yn glir yn weledol felly mae’n galluogi cynulleidfaoedd Byddar i brofi pob rhan o’r sioe yn llawn hefyd.

14/03/202410:15:00Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, AberystwythPrynu Tocyn
14/03/202413:30:00Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, AberystwythPrynu Tocyn