Mae’r cynhyrchiad rhyngweithiol hwn yn herio naratif confensiynol gemau cyfrifiadurol drwy gyfuno’r byd digidol a’r byd ffisegol i greu profiad unigryw.
Mae taith wersylla dau ffrind yn cymryd tro annisgwyl pan fydd endid ‘drwg’ yn tarfu ar gydbwysedd naturiol y goedwig… Cwrdd ag ystlumod, dadgodio posau, a chasglu crisialau. Eich dewisiadau chi fydd yn rheoli’r stori!
Cydiwch yn eich rheolydd gêm fideo! Mae pob gêm yn para hyd at 45 munud os caiff ei chwarae yn ei chyfanrwydd, ond gallwch chi alw heibio am gyfnod byrrach. Nid profiad theatr yn unig mohono; bydd tynged y cymeriadau yn eich dwylo chi!
Mae Rheolydd // Controller yn annog chwaraewyr i hunan fyfyrio ar ganlyniadau gweithredoedd, yn y byd rhithwir a bywyd go iawn.
Gwaith newydd sbon a gomisiynwyd ar gyfer Gŵyl Agor Drysau 2024 gan Gwmni Theatr Arad Goch mewn cydweithrediad ag Addo.
Amserlen y perfformiadau:
Dydd Mawrth 12 Mawrth – 11.30am, 4.15pm, 5.45pm.
Dydd Mercher 13 Mawrth – 11.30am, 4.15pm, 5.45pm.
Dydd Iau 14 Mawrth – 10.45am, 12.15pm, 4.15pm.
Dydd Gwener 15 Mawrth – 12.15pm, 4.15pm, 5.45pm.
Dydd Sadwrn 16 Mawrth – 10.45am, 12.15pm, 1.45pm.