Mae dau chwaraewr yn camu i’r cae. Dau sy’n gwrtais a pharchus yn eu bywydau bob dydd. Ond ar y cae chwarae, mae’r ysfa i ennill a threchu’r llall yn dod yn amlwg.
Dyma theatr gorfforol chwareus a dramatig sy’n archwilio’r teimladau ac emosiynau sydd ynghlwm wrth ennill a cholli, a’r elfen ddynol y tu hwnt i gystadleuaeth.