Dewch i gwrdd â Dan a Dicw - dau berson gwahanol o fydoedd gwahanol iawn.
Mae Dicw’n fachgen bach petrus. Yn ei fyd modern, technolegol, mae’n hawdd ymgolli a threulio oriau mewn gemau ac yn gwylio fideos. Ond mae Dicw braidd yn ansicr yn gorfforol - dydy o ddim yn un i ddringo coed a chrwydro coedwigoedd ac ymgolli yn ei ddychymyg. Ond pan mae’n cael ei ddanfon allan o’r tŷ un prynhawn, mae’n taro ar Dan - creadur od ar y naw sy’n byw yn wyllt, ac felly’n byw bywyd sy’n hollol wahanol i un Dicw. Dyma ddrama sy’n ysgafn ac yn hwyliog, yn ogystal â bod yn addfwyn ac yn cyffwrdd y galon.
Dyddiadau
20/03/2019 am 9.30yb, TBC
20/03/2019 am 1.30yp, TBC
Manylion
Cwmni: Fran Wen
Gwlad: Cymru
Iaith: Perfformir yn y Gymraeg
Oedran: 3 i 7
Awdur: Manon Steffan Ros
Actorion: Rhianna Loren ac Owen Alun Williams
Cyfarwyddwr: Elgan Rhys
Cynllunydd set/gwisgoedd: Heledd Rees
Cyfansoddwr: Robin Edwards
Darlunydd: Menai Rowlands
Pecyn dysgu creadigol: Haf Llewelyn