Bydd y bardd Clare Potter a’r pedwarawd jazz The Slippery Fish yn ein tywys ar daith ar hyd yr afon, o’i tharddiad i’r môr. Ar hyd y glannau ac yn nyfnder y dwr bydd creaduriaid dychmygol a rhai go iawn yn rhannu eu storïau. Mae gan yr afon bethau i’w dweud wrthon ni am gyfeillgarwch, natur ac am sut mae popeth yn llifo i’w gilydd.
Mae’r band the Slippery Fish yn cynnwys aelodau BURUM a arweinir gan Tomos Williams, y trwmpedwr o Aberystwyth.