
- This event has passed.
Tripula
17th Mawrth 2019 @ 4:00 pm - 5:30 pm
Oed: 6+
Taith mewn balŵn i hwylio tu hwnt i’r byd, a’ch cludo gan yr awyr a’ch dychymyg.
Mae dau wyddodydd wedi darganfod modd newydd o deithio a heddiw byddan’ nhw rhannu yr esblygiad trafnidiaethol hynod ‘ma gyda chi! Mae’r Balŵn Awyr Llonydd yn teithio drwy’r gofod, yn agos at ffiniau realiaeth, a’ch caniatáu i fynd i lefydd ‘doedd neb yn gwybod am eu bodolaeth. Mae’r daith yn argoeli i fod yn hudol – oni bai y daw ambell i anffawd gan orfodi’r teithwyr i fod yn rhan o’r criw…
Mae cwmni’r Brodyr Farrés wedi cymryd hen falŵn awyr a’i droi yn brofiad theatraidd unigryw. Mae eu gwaith yn adnabyddus iawn yng Nghatalonia ac mewn gwledydd eraill ar y cyfandir; dyma’r tro cyntaf iddyn nhw berfformio yng Nghymru.