Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

  • This event has passed.

Twrw Dan a Dicw

20th Mawrth 2019 @ 1:30 pm - 3:00 pm

Dewch i gwrdd â Dan a Dicw – dau berson gwahanol o fydoedd gwahanol iawn.

Mae Dicw’n fachgen bach petrus. Yn ei fyd modern, technolegol, mae’n hawdd ymgolli a threulio oriau mewn gemau ac yn gwylio fideos. Ond mae Dicw braidd yn ansicr yn gorfforol – dydy o ddim yn un i ddringo coed a chrwydro coedwigoedd ac ymgolli yn ei ddychymyg. Ond pan mae’n cael ei ddanfon allan o’r tŷ un prynhawn, mae’n taro ar Dan – creadur od ar y naw sy’n byw yn wyllt, ac felly’n byw bywyd sy’n hollol wahanol i un Dicw. Dyma ddrama sy’n ysgafn ac yn hwyliog, yn ogystal â bod yn addfwyn ac yn cyffwrdd y galon.

Oed: 3-7

Gellir darllen mwy am y cynhyrchiad hwn yma.

Manylion

Dyddiad:
20th Mawrth 2019
Amser:
1:30 pm - 3:00 pm