
- This event has passed.
Un Tout Petit Peu Plus Loin
21st Mawrth 2019 @ 10:45 am - 12:15 pm
Perfformiad aml-gyfwng, gyda dawns a cherddoriaeth.
Daw ciwb rhyfedd – fel wy mawr sgwâr – mas o’r môr stormus! O’r ciwb daw dwy, pedair, chwe throed a chymryd eu camau cyffrous cyntaf yn y byd mawr rhyfedd ‘ma gan ofalu am ei gilydd wrth chwarae a darganfod eu byd newydd – fel gêm llawn syndod.
Wrth ddilyn llwybr newydd, gan golli a dod o hyd i’w gilydd eto, mae’n nhw’n mentro ymhellach ac ymhellach cyn cael hyd i gysgod am y noson a breuddwydio am y byd mawr o’u blaenau.
Mae’r cwmni yn adnabyddus am ei waith dawns cyffrous i blant; dyma’u hymweliad cyntaf i Gymru.