Nos Iau diwethaf yn Amgueddfa Ceredigion cafwyd noson lansio yr ŵyl Agor Drysau. Roedd yr Amgueddfa dan ei sang gyda phobl yn mynychu’r digwyddiad yn frwd ac yn barod i ddysgu mwy am yr ŵyl.
Dechreuodd y noson gyda phobl yn sgwrsio dros ddanteithion blasus yng nghaffi’r Amgueddfa gan y cwmni Pelican yn y dref cyn symud ymlaen i’r prif ddigwyddiad.
Daeth cyflwyniad cynhwysfawr gan Jeremy Turner, cyfarwyddwr artistig Arad Goch, i ddechrau’r noson. Soniwyd am holl ddigwyddiadau teuluol yr ŵyl yn ogystal a hynt a helynt Phosphoros Theatre yn ceisio mynd i Malta.
Wedyn symudodd y noson i’r brif digwyddiad dangosiad o Jerry The Tyke. Ffilm gafwyd ei ddangos mewn sinemâu yn yr 1920au am y tro cyntaf ond gwaith ar y cyd gyda’r Llyfrgell Genedlaethol, Ffilm Hub Wales a Simon Lovatt o ganolfan Arad Goch.
Cewch i gael cip ar y lluniau isod i weld sut aeth y noson.