Dewch i noson lansio Agor Drysau ar yr 21ain o fis Chwefror yn Amgueddfa Ceredigion!
Beth fydd yn digwydd yn ystod y noson?
Bydd Jeremy Turner yn trafod beth fydd yn digwydd yn y yr ŵyl gan gynnwys y cynyrchiadau fwyaf hir ddisgwyliedig. Hwn fydd y cyfle cyntaf i glywed beth yw’r digwyddiadau ymylol yn yr ŵyl; fel y seminarau, trafodaethau, a gweithdai.
Bydd hefyd dangosiad o'r cynhyrchiad Jerry The Tyke.
Credwch neu beidio gwnaeth animeiddio Cymreig ddim dechrau gyda SuperTed a Sam Tân ond gyda Jerry the Troublesome Tyke.
Mae’r ci bendigedig o gwerylgar, Jerry the Tyke, yn cael anturiaethau gwyllt a gwallgof sy’n gwneud i Norman Preis edrych fel angel! Wedi ei ddangos mewn sinemâu yn yr 1920au am y tro cyntaf mae Jerry yn rhan o bob math o hynt a helynt sydd dal yn hyfryd o ffres. Yn gartwnau heb sain yn wreiddiol mae’r perfformiad yma â dimensiwn newydd wrth i Simon Lovatt, cerddor preswyl Arad Goch, ychwanegu trac sain byw.
Gan bod y noson lansio yn Amgueddfa Ceredigion mae capasiti bach iawn yna felly rhaid archebu tocyn o flaen llaw. Mae tocynnau yn rhad ac am ddim, a gallwch gael rhai drwy ffonio Arad Goch ar 01970 6179988 neu ebostio post@aradgoch.org.