Cwmni Theatr Arad Goch
Cwmni Theatr Arad Goch yw trefnydd Gŵyl Agor Drysau.
Wedi’i leoli yn Aberystwyth, mae’r cwmni yn darparu theatr o’r safon uchaf, yn bennaf ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n perfformio yn y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill, ac wedi teithio i Ffrainc, Sbaen, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Corea, Singapore, Tunisia, Canada ac UDA. Mae’r cwmni hefyd yn cynhyrchu digwyddiadau a phrosiectau ar raddfa fawr megis Gŵyl Hen Linell Bell, a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 2017, a’r cynhyrchiad crwydrol, Clera.
Mae’r cwmni yn cynnal clybiau drama i blant a phobl ifanc, a gweithgareddau creadigol o bob math drwy’r flwyddyn. Mae Canolfan Arad Goch yng nghanol tref Aberystwyth yn hwb cymunedol bywiog gydag oriel gelf, theatr, a gofodau ymarfer a chyfarfod.