Cynhyrchiad hudolus a rhyngweithiol i blant bach a’u teuluoedd sy’n defnyddio gwrthrychau naturiol ein hamgylchedd i greu, adeiladu, chwarae, archwilio a chyfathrebu. Bydd y plant yn helpu’r cymeriadau i greu lle arbennig a diogel iddynt gysgodi, gan wynebu rhai o’r heriau ymarferol ag emosiynol sydd yn dod yn sgìl cydweithio a rhannu ag eraill.
Perfformiad dwyieithog fydd hwn, ond ychydig iawn o iaith a ddefnyddir. Mae’n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd. Ceir hefyd elfennau o BSL yn y perfformiad.