Yn wybren ryfeddol sêr y nos, mae’r daith delynegol hon yn archwilio sut y gallwn ni gyd oresgyn ein hofnau. Bydd eich dychymyg yn gwibio wrth i chi ymuno â phlentyn a cheffyl ar antur drwy’r gofod, gan ddarganfod cytserau a hedfan drwy stormydd. Yng nghwmni cerddorfa 25 darn, bydd y perfformiad hwn hefyd yn cynnig cyflwyniad i seiniau gwahanol offerynnau cerdd.
Perfformir gan Philomusica Aberystwyth a Ffion Wyn Bowen
Arweinydd: Iwan Teifion Davies
Cerddoriaeth: Gareth Glyn
Geiriau: Mererid Hopwood
Animeiddio: Rosie Miles a Rhys Bevan Jones