Mae ‘Owl’ yn byw mewn tŷ bach clyd mewn boncyff gwag yn y goedwig. Ond gan fod ‘Owl’ yn unig druan, mae’n canu iddo’i hun ac yn chwilio am ffyrdd i ladd amser. Mae’n pendroni llawer am bethau. Beth fyddai’n digwydd pe bai’n gwahodd y gaeaf i mewn i’w dŷ? Ydi ‘Owl’ yn gallu bod mewn dau le ar yr un pryd?
Wrth i’w ddychymyg garlamu, mae pethau o’i gwmpas yn dechrau dod yn fyw. Mae’n dod o hyd i ffrind yn sydyn, ffrind sy’n barod i’w ddilyn i ben draw’r byd… os yw ‘Owl’ yn dymuno hynny neu beidio!
Mae Owl at Home yn stori hudolus gyda cherddoriaeth sy’n dangos sut mae cyfeillgarwch yn cuddio yn y llefydd mwyaf annisgwyl.
Wedi’i seilio ar y llyfr â darluniau i blant gan Arnold Lobel.
Addaswyd i’r llwyfan gan Rina Vergano + Theatr Iolo.