QWERIN
Addas ar gyfer bob oedran
35 munud

Perfformiad dawns gyfoes sy’n ddathliad lliwgar o ddiwylliant, hunaniaeth a chymuned. Wedi’i ysbrydoli gan wead a phatrymau’r ddawns werin Gymreig ynghyd ag egni heintus bywyd nos Cwiar, mae QWERIN yn cynnig sylwebaeth ar y cysyniad o ‘Queerness’ a Chymreictod. Perfformir i sgôr sain wreiddiol gan rai o gerddorion amlycaf Cymru â gwisgoedd trawiadol sy’n rhoi blas newydd i’r wisg draddodiadol Gymreig. Mae QWERIN yn wledd i’r glust a’r llygad.

Cafodd QWERIN ei greu yn ystod haf 2021 dan gomisiwn arbrofol i Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Cafodd ei ddatblygu i fod yn ddarn cyflawn yn 2022 drwy gymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru a chymorth cefnogol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

14/03/202409:30:00Canolfan y Celfyddydau, AberystwythAm Ddim
14/03/202416:15:00Llyfrgell Genedlaethol CymruAm Ddim