Ymunwch â ni ar daith hudol lle mae artistiaid awyr yn dawnsio fel tonnau’r môr, lle mae ffidlwr yn hedfan fry, a lle mae’r nos a’r dydd a’r gwyll yn arnofio ac yn plymio. A pheidiwch ag anghofio hen wraig ddirgel yr afon sy’n defnyddio ei phlu i archwilio’r hyn sydd y tu ôl i’r lleuad pan y bydd yn troi o gwmpas! Mae When the Moon Spun Round yn gynhyrchiad epig sydd wedi’i ysbrydoli gan gerddi a straeon W.B Yeats, ac sy’n dwyn ynghyd arbenigeddau Ceol Connected a Fidget Feet – dau o gwmnïau cynhyrchu mwyaf blaenllaw Iwerddon.
Wedi’i greu a’i gyd-gynhyrchu gan Fidget Feet a Ceol Connected. Ariennir gan Culture Ireland, Cyngor Sir Monaghan a Baboró International Arts Festival for Children. Cefnogwyd yn wreiddiol gan Siamsa Tire, LimeTree Theatre a’r Irish Aerial Creation Centre.